Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7
Chwefror 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0118(EI)
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Angela Burns (Gorllewin Caerfyddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin?
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad
Busnes
(45 munud)
Dogfen Ategol
Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon
(45 munud)
(120 mins)
NDM6228
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn
nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl eto i ddangos
sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut berthynas
fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
2.
Yn
cydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb
Ewropeaidd.
3.
Yn
croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.
4.
Yn
cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi ynddo a'r dull
gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
5.
Yn
credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu blaenoriaethau Cymru,
fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r DU yn
gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru
drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am
fanteision y dull gweithredu hwn.
6.
Yn
nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis
Mawrth.
7.
Yn
ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn Sewel, ac yn credu y
dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori
â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth
i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u
cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb
Ewropeaidd.
8.
Yn
mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd
pennaf ein heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch
buddiannau gwleidyddol cul.
Dogfen Ategol
Diogelu Dyfodol
Cymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.
3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
4. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
5. Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif Weinidog y DU i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.
'UK Government White Paper' (Saesneg yn unig)
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd, o gofio pa mor bwysig i Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad sengl.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 8 Chwefror 2017